Public Health Wales logo

 

TYSTIOLAETH YSGRIFENEDIG IECHYD CYHOEDDUS CYMRU AR CoVID-19

Cyflwynwyd i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

MAI 6, 2020
 
  


 


Sesiwn dystiolaeth y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru   

Dydd Iau 7 Mai 2020

 

1      Cyflwyniad

 

Cyflwynir y dystiolaeth ysgrifenedig hon i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon cyn sesiwn dystiolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru a gynhelir ddydd Iau 7 Mai 2020.

Mae'r papur yn ymdrin yn bennaf â'r camau a gymerwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ystod y cam oedi (o 12 Mawrth 2020 ymlaen) ac yn disgrifio'r gweithgareddau allweddol, yr hyn a ddysgwyd o wledydd eraill a'r effeithiau ehangach ar iechyd y boblogaeth o ganlyniad i COVID-19.

2      Yr Epidemioleg Gyfredol

 

Niferoedd byd-eang: Mae'r pandemig wedi datblygu'n sylweddol ers dechrau mis Mawrth, gyda dros 190 o wledydd bellach yn adrodd bod ganddynt achosion o'r clefyd. Ar 5 Mai 2020, roedd 3,575,545 o achosion a gadarnhawyd a 243,401 o farwolaethau ledled y byd[1].

Niferoedd yn y DU: Mae pob un o bedair gwlad y DU wedi gweld cynnydd cyflym yn nifer yr achosion a'r marwolaethau yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill. Ar 5 Mai 2020, roedd 194,990 o achosion o blith cyfanswm o 1,015,138 o bobl a brofwyd. Nifer y bobl a fu farw yn y DU yw 29,427[2].

Y niferoedd yng Nghymru: Mae datblygiad y pandemig yng Nghymru wedi dilyn y duedd yn Lloegr yn glos ac mae pob un o'r saith Bwrdd Iechyd a'r 22 o ardaloedd Awdurdodau Lleol wedi cofnodi achosion a marwolaethau a gadarnhawyd. Ar 5 Mai 2020, roedd 10,669 o achosion a gadarnhawyd a 1023 o farwolaethau. Profwyd cyfanswm o 36,389 o unigolion yng Nghymru a chynhaliwyd 42,346 o brofion[3].

Epidemioleg yng Nghymru: Y prif grŵp oedran yr effeithir arno yw'r ystod oedran 50-59 oed ac yna'r ystod oedran 40-49 oed. Yn seiliedig ar fonitro ystod o ddata dros y pythefnos diwethaf, mae'n ymddangos bod y brig cyntaf wedi mynd heibio yng Nghymru. Dangosir mwy o fanylion yn Atodiad 1. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi dangosfwrdd cadw golwg rhyngweithiol y gellir ei weld yma.

3      Gwybodaeth newydd am epidemioleg a throsglwyddiad COVID-19

 

Bellach, mae tystiolaeth glir iawn y gall unigolion cael canlyniad prawf positif ar gyfer yr haint heb gael unrhyw symptomau a gwelir pobl gyda symptomau annodweddiadol o'r haint.

Bellach cydnabyddir bod y cyfnod heintus yn sgil gollwng y feirws hyd at 2 ddiwrnod cyn i'r symptomau ddechrau dod i'r amlwg, sy'n golygu bod trosglwyddiad cyn-symptomatig o'r haint.

Cydnabyddir bod hyd y cyfnod heintus hefyd yn ymestyn y tu hwnt i 7 diwrnod, sy'n golygu bod goblygiadau o ran y cyfnod ynysu yn enwedig i unigolion sy'n agored i niwed (e.e. preswylwyr cartrefi gofal, y rhai ag imiwnedd gwan) ac mewn lleoliadau risg uchel.

4      Dysgu o brofiad rhyngwladol

 

Fel aelod o Gymdeithas Ryngwladol Sefydliadau Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol (IANPHI), cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru weminar ddechrau mis Mawrth, a fynychwyd gan 11 o sefydliadau iechyd cyhoeddus cenedlaethol Ewropeaidd gan gynnwys yr Almaen, yr Eidal a Ffrainc, yn canolbwyntio ar gyfathrebu â'r cyhoedd. Rydym hefyd wedi cymryd rhan mewn gweminarau gyda Chanolfannau Rheoli ac Atal Clefydau De Korea a Tsieina. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd wedi cael trafodaeth ddwyochrog gyda Sefydliad Robert Koch ym Merlin, Canolfan Genedlaethol Diogelu Iechyd yr Almaen. Pwrpas y rhain yw dysgu gan wledydd eraill sut maen nhw wedi ymdrin â'r pandemig.

Mae ein Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant yn gweithio'n agos gyda Swyddfa Ranbarthol Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd, gan gynnwys Swyddfa Fenis a'r Rhwydwaith Rhanbarthau Iechyd. Rydym wedi cael mynediad uniongyrchol i'r canllawiau, y dystiolaeth a'r gwersi diweddaraf o bob cwr o'r byd ac o Ewrop, sy'n gysylltiedig ag effeithiau ehangach COVID-19 ar iechyd a llesiant pobl, tegwch, gwytnwch cymunedol a gwytnwch systemau, cymdeithas a'r economi.

Mae ein Canolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (IHCC) wedi bod yn helpu i ledaenu a defnyddio'r hyn a ddysgwyd yn rhyngwladol a phrofiad ystod o rwydweithiau a sefydliadau Ewropeaidd a byd-eang, ac mewn cydweithrediad â'r pum gwlad (gan gynnwys Iwerddon). Mae e-fwletin wythnosol gyda'r wybodaeth a'r adnoddau diweddaraf yn cael ei gylchredeg i'n rhwydweithiau yng Nghymru.

Yn fwy diweddar, mewn ymateb i'r mesurau sy'n esblygu mewn perthynas â COVID-19, a llywio cynlluniau ymateb ac adfer iechyd cyhoeddus yng Nghymru, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi canolbwyntio ar ddatblygu ffrwd waith Sganio'r Gorwel Rhyngwladol (fel y cytunwyd gyda Llywodraeth Cymru). Mae hyn yn canolbwyntio ar yr ymateb rhyngwladol i COVID-19, dulliau i liniaru effaith ehangach, pontio a dulliau adfer.

5      Meysydd y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi canolbwyntio arnynt yn ystod y cam oedi  

 

Drwy gydol y cam oedi mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi parhau i ymgysylltu â gwledydd eraill y DU. Mae hyn yn cynnwys telegynhadledd ddyddiol rhwng y pedair gwlad dan arweiniad Public Health England.

Yn y cam oedi, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid i ehangu'r capasiti i gynnal profion yng Nghymru - er gwaethaf yr heriau'n ymwneud â chadwyni cyflenwi byd-eang cystadleuol. Yn ogystal, rydym wedi bod yn gwerthuso nifer o brofion gwrthgyrff masnachol (seroleg/llif ochrol) a'r gobaith yw y bydd modd eu cyflwyno yn ystod yr wythnosau nesaf. Ymdrinnir â hyn yn fanylach yn adran 6 isod.

Cymru oedd un o'r gwledydd cyntaf yn y DU i gynnig profion i Weithwyr Gofal Iechyd (cychwynnwyd hynny ar 18 Mawrth 2020). Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru yn ystod y broses o lunio polisïau ar brofi gweithwyr allweddol. 

Gan weithio gyda Grŵp Cynghori Technegol Llywodraeth Cymru, a chysylltu â gwledydd eraill y DU, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn rhan o'r gwaith modelu i gynhyrchu amcangyfrifon ar gyfer Cymru yn seiliedig ar fodelau'r DU. Mae hyn wedi helpu byrddau iechyd i gynllunio capasiti, yn arbennig capasiti gofal critigol ac ehangu capasiti gofal cleifion mewnol i ysbytai maes.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynhyrchu dangosfwrdd cadw golwg rhyngweithiol, sydd ar gael ar y dudalen we gyhoeddus (y mae modd ei gweld ar gyfrifiadur ac ar ffôn clyfar). Mae hwn yn cael ei ddiweddaru'n ddyddiol ac yn darparu gwybodaeth i ystod o randdeiliaid gan gynnwys y cyhoedd ac yn caniatáu i ddata gael ei lawrlwytho'n hawdd hefyd (gweler yma).

6      Samplu a Phrofi

 

Samplu yw'r broses o gymryd sampl o'r corff a fydd wedyn yn cael ei brofi. Ar hyn o bryd, cymerir samplau (swabiau) o gefn y gwddf i ganfod antigenau ac a oes COVID-19 ar rywun. Byddwn hefyd yn cymryd samplau gwaed gan bobl i wirio am wrthgyrff (profion seroleg) sy'n dangos a oes rhywun wedi cael COVID-19.

Ymhlith y dulliau profi mewn labordy sydd ar gael i ganfod y feirws mae profion PCR (adwaith cadwynol polymerasau) i ganfod RNA (asid riboniwcleig) feirysol mewn sampl. Mae'r ymateb imiwn i'r feirws yn cynnwys cynhyrchu gwrthgyrff ac mae sawl dull ar gael i ganfod gwrthgorff i'r feirws. Fodd bynnag, nid yw'n hysbys a yw'r profion sydd ar gael ar hyn o bryd yn canfod imiwnedd, ynteu dim ond haint blaenorol, ac felly ni ellir eu defnyddio i ganfod imiwnedd.

Yn y cam oedi, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys yr Hwb Gwyddorau Bywyd a Llywodraeth Cymru, i ehangu'r capasiti i gynnal profion am antigenau yng Nghymru. Gan ddechrau o gapasiti sylfaenol o 350 o brofion antigenau (PCR) y dydd rydym bellach wedi cynyddu hynny i 2350 y dydd. Bydd y capasiti profi yn parhau i gynyddu dros yr wythnosau nesaf. Yn ogystal, rydym wedi bod yn gwerthuso nifer o brofion gwrthgyrff masnachol (seroleg/llif ochrol) a'r gobaith yw y bydd modd cyflwyno'r rhain yn ystod yr wythnosau nesaf. Bydd hyn yn arbennig o bwysig wrth i ni symud i'r cam Adfer.

Mae'n bwysig nodi, gan ein bod mewn pandemig, bod holl wledydd y byd yn ceisio sicrhau capasiti profi ar gyfer eu gwlad eu hunain. Mae hyn felly'n golygu bod cael gafael ar gyfarpar ac adweithyddion cemegol ar gyfer profion yn rhan o gadwyn gyflenwi fyd-eang hynod gystadleuol ac yn arwain at oedi a newidiadau i archebion a'r nwyddau sy'n cyrraedd Cymru.

Mewn perthynas â 'chanolfannau samplu' h.y. lle y cymerir swabiau, ar hyn o bryd mae 20 o unedau profi ar gyfer coronafeirws sy'n cael eu rheoli gan fyrddau iechyd ledled Cymru sy'n cefnogi'r gwaith o samplu gweithwyr allweddol yn y meysydd iechyd a gofal cymdeithasol. Yn ogystal, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, mae nifer o ganolfannau samplu'r boblogaeth (safleoedd profi torfol) wedi'u datblygu. Y safleoedd a agorwyd yn ddiweddar yw:

1.   Stadiwm Dinas Caerdydd

2.   Maes Sioe Caerfyrddin

3.   Llandudno

4.   Abercynon (wrthi'n cael ei datblygu)

Yn ogystal, datblygwyd safleoedd yn Rodney Parade, Casnewydd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Stadiwm Liberty gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Ac eithrio Stadiwm Dinas Caerdydd, rheolir pob safle gan y byrddau iechyd.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r fyddin i gefnogi'r gwaith o ddatblygu unedau profi symudol. Mae wyth uned ar gael ar gyfer Cymru, gyda phob bwrdd iechyd yn cael un uned yr un. Bydd Powys yn cael dwy uned. Bydd yr unedau'n gweithredu o'r canolfannau samplu'r boblogaeth.

Mae porth gwe i alluogi pobl i archebu profion ar-lein yn cael ei ddatblygu. Mae hyn bellach yn fyw i rai grwpiau o weithwyr allweddol sy'n gallu archebu profion yn stadiwm Dinas Caerdydd. Mae gwaith ar y gweill i gyflwyno hyn yn gyflym i'r holl weithwyr allweddol ac yna ei ehangu i'r holl ganolfannau samplu'r boblogaeth ledled Cymru o fewn yr wythnos nesaf. Hefyd, mae gwaith ar y gweill i ymchwilio i opsiynau ar gyfer dosbarthu pecynnau prawf i gartrefi pobl. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ar symud ymlaen gyda'r datblygiadau hyn.

Mae amcangyfrif y galw am brofion yn seiliedig ar nifer o ragdybiaethau megis amcangyfrifon o nifer yr achosion ar sail data modelu (ar gyfer senarios wedi'u lliniaru a heb eu lliniaru), cyfraddau cefndir arferol haint ar y llwybr anadlol uchaf ymysg y boblogaeth, cyfran y gweithwyr rheng flaen sy'n dod i gysylltiad â'r feirws sydd wedyn yn dod yn symptomatig a chydymffurfiaeth â'r mesurau lliniaru.

Wrth i ni symud i'r cam adfer, bydd yn bwysig cydbwyso dosraniad y capasiti profi ar unrhyw adeg benodol er mwyn canolbwyntio ar flaenoriaethau profi.

7      Lleoliadau caeedig a chartrefi gofal

 

Sefydlodd Iechyd Cyhoeddus Cymru gell lleoliad caeedig o 23 Mawrth 2020 er mwyn mabwysiadu dull atal / ymyrraeth o ymdrin â chartrefi gofal a phreswyl a charchardai. Mae tîm ymroddedig, sy'n gweithio gyda phartneriaid, wedi bod yn cyflwyno pecyn o ymyriadau gan gynnwys cymorth i reoli achosion a chlystyrau, cyngor ar atal a rheoli'r haint, a defnyddio offer amddiffynnol personol (PPE).

 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i flaenoriaethu cartrefi gofal. Mae gweithgaredd yn y ganolfan alwadau wedi cynyddu ac rydym wedi cynyddu nifer y bobl sy'n gweithio yn y ganolfan.  Mae hyn yn rhannol oherwydd y nifer cynyddol o alwadau o gartrefi gofal lle ceir achosion newydd a hefyd o ganlyniad i bolisi newydd Llywodraeth Cymru i brofi pob achos symptomatig ymysg preswylwyr.

Gan weithio mewn partneriaeth â Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd awdurdodau lleol, mae'r Swyddogion hyn bellach yn cysylltu'n rhagweithiol â chartrefi gofal lle nad oes achosion a gadarnhawyd, fel cam ataliol. Byddant hefyd yn mynd ar drywydd cartrefi lle ceir achosion newydd, er mwyn cynnig cymorth ychwanegol a monitro nifer yr achosion a nifer y marwolaethau. Mae tîm arbenigol diogelu iechyd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i ddarparu cymorth ar draws pob lleoliad.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau diwygiedig ar gyfer cartrefi gofal ac i ddarparu cyngor ar rolau a chyfrifoldebau i bob sefydliad. Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar 3 Mai 2020, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio’n gyflym gyda Llywodraeth Cymru ac arweinwyr byrddau iechyd i sicrhau eglurder a'u galluogi i weithredu'r canllawiau.

8      Gwasanaethau iechyd cyhoeddus (Sgrinio, Imiwneiddio a Gwasanaethau Nad Ydynt yn Ymwneud â'r Coronafeirwrs)

 

Gwasanaethau sgrinio: Yn dilyn y cyhoeddiad am reolau cadw pellter cymdeithasol, cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru asesiad risg ar allu a diogelwch darparu rhaglenni sgrinio. Penderfynwyd atal pob gwahoddiad a chanslo clinigau sgrinio o 18 Mawrth 2020 ymlaen ar gyfer Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru, Rhaglen Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol Cymru, Bron Brawf Cymru, Sgrinio Coluddion Cymru a Sgrinio Serfigol Cymru. Fodd bynnag, o ran y bobl hynny a oedd eisoes wedi cael eu sgrinio, byddai'r llwybr yn cael ei gwblhau. Penderfynwyd hefyd parhau â rhaglenni Sgrinio Cyn Geni Cymru, Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig a Sgrinio Clyw Babanod, o gofio bod gan bob un ohonynt gyfnodau ymyrraeth byr. Symudodd rhai o staff y gwasanaethau sgrinio'r fron a sgrinio serfigol i gefnogi'r gwasanaeth symptomatig, gan gyfrannu at glinigau symptomatig asesu'r fron a cholposgopi brys. Bu'n rhaid i fyrddau iechyd atal gwasanaethau sgrinio a cholonosgopi clinigol ac mae hyn wedi golygu bod yn rhaid datblygu dull gwahanol i ymateb i symptomau sy'n awgrymu achos o ganser y coluddyn, a gyflwynwyd ddiwedd mis Ebrill i gefnogi cleifion a'r GIG.

Imiwneiddio: Gan gydnabod y bydd COVID-19 yn arwain at gwymp yn y nifer sy'n cael yr holl frechlynnau oherwydd mesurau cadw pellter cymdeithasol, cau ysgolion, gwarchod grwpiau risg uchel ac amharodrwydd i gael imiwneiddiadau arferol, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi adolygu'r rhaglen imiwneiddio yng Nghymru. Gan ystyried papur yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol 'S7A Programme Assessment in light of Covid-19’ (17 Mawrth 2020), a chanllawiau Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ar 17 Mawrth 2020, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi argymell dull imiwneiddio yn seiliedig ar flaenoriaethu ar ôl nodi bod rhai rhaglenni brechu yn rhaglenni blaenoriaeth uchel iawn ac uchel. Argymhellodd Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd i Lywodraeth Cymru fod paratoi ar gyfer rhaglen y ffliw 2020-21 yn waith strategol bwysig ac y dylid disgwyl cynnydd yn y galw am frechiadau rhag y ffliw.

Gweithgareddau diogelu iechyd nad ydynt yn gysylltiedig â'r Coronafeirws: Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i ymateb i faterion diogelu iechyd arferol nad ydynt yn ymwneud â Covid-19 gan gynnwys ymateb i achosion, clystyrau a brigiad o heintiau hysbysadwy. Yn nodedig, mae'r ymateb parhaus i achosion o TB, clwstwr o glefyd y llengfilwyr, cynnydd mewn hysbysiadau am glwy'r pennau a heintiau gastroberfeddol wedi parhau.

Wrth i ni symud i'r cam adfer, bydd yn bwysig cydbwyso dosraniad y capasiti profi ar unrhyw adeg benodol er mwyn canolbwyntio ar flaenoriaethau profi.

9      Gwybodaeth ar gyfer adferiad

 

Mae cydnabyddiaeth gynyddol y bydd y cyfyngiadau yn sgil Covid-19, yn arbennig y rhai sy'n ymwneud â gweithio, addysg, hamdden, diwylliant a theithio, yn cael effeithiau negyddol uniongyrchol ac anuniongyrchol sylweddol ar iechyd a llesiant, ynghyd â rhai effeithiau cadarnhaol posibl.

Ymysg yr effeithiau uniongyrchol ar Iechyd, Llesiant ac elfennau Cymdeithasol mae materion megis colli gofal iechyd a chymorth nad yw'n gysylltiedig â Covid-19 (gan gynnwys mewn meysydd allweddol megis clefyd cardiofasgwlaidd, canser, iechyd a llesiant meddyliol); effeithiau ar y nifer sy'n manteisio ar imiwneiddio a brechu a; risg uwch o lefelau Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, cam-drin plant a cham-drin pobl hŷn (gall pob un o'r rhain gael effeithiau hirdymor).

Mae effeithiau tymor hwy yn cynnwys materion megis colli incwm a chynnydd mewn dyledion, gydag effaith gysylltiedig ar ddiogelwch bwyd, ansawdd bywyd, y gallu i brynu hanfodion ac iechyd meddwl.

Mae'n bosibl i lawer o'r uchod gael effaith anghymesur ar blant a phobl ifanc, cymunedau a grwpiau difreintiedig, ac o bosibl cynyddu ymhellach y bylchau o ran anghydraddoldebau iechyd. Er mwyn helpu i lywio opsiynau polisi i sicrhau'r cydbwysedd gorau posibl rhwng mesurau rheoli'r feirws a chanlyniadau negyddol posibl, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu cymorth mewn pedwar prif faes.

1.   Asesiadau Effaith ar Iechyd Covid-19

2.   Arolwg Cenedlaethol Ymgysylltu â'r Cyhoedd ar lesiant ac ymddygiad

3.   Sganio'r Gorwel Rhyngwladol

4.   Dangosfwrdd o ddangosyddion iechyd ehangach.

 

Gwnaed cynnydd ym mhob un o'r meysydd hyn.

1.   Asesiadau Effaith ar Iechyd Covid-19. Rydym yn datblygu cyfres o asesiadau effaith ar iechyd cyflym, a fydd yn creu darlun o ystod o effeithiau (cadarnhaol a negyddol) Covid-19 a'r ymatebion polisi o ran iechyd a llesiant yn y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hwy. 

2.   Mae'r Arolwg Cenedlaethol Ymgysylltu â'r Cyhoedd ar lesiant ac ymddygiad bellach yn casglu data am y bedwaredd wythnos. Ymhlith y canfyddiadau diweddar mae:

a.   Cytundeb cryf bod y GIG yn ymateb yn dda (mae 96% yn cytuno neu'n cytuno'n gryf)

b.   Pobl yn cydnabod bod pobl yn eu cymunedau a fydd yn eu cefnogi drwy'r pandemig (mae 81% yn cytuno neu'n cytuno'n gryf)

c.    Newidiadau mewn ymddygiad bob dydd - mae 37% o bobl yn siarad mwy â theulu a ffrindiau; mae 42% yn defnyddio mwy ar y cyfryngau cymdeithasol.

d.   Mae 67% o bobl yn ystyried bod lefelau'r cyfyngiadau cymdeithasol yn briodol

Mae adroddiadau wythnosol ar ganfyddiadau'r arolwg ymgysylltu cenedlaethol ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

3.   Sganio'r Gorwel Rhyngwladol - ymdriniwyd â hyn yn gynharach yn yr adroddiad hwn.

4.   Dangosfwrdd o ddangosyddion iechyd ehangach - Mae'r Is-adran Gwybodaeth Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn archwilio ffynonellau data arferol ar faterion yn ymwneud ag iechyd a allai gael eu heffeithio gan y coronafeirws neu'r cyfyngiadau sy'n gysylltiedig â'i reoli. Bydd y rhain yn cael eu hymgorffori yn nangosfwrdd Coronafeirws Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda mesurau uniongyrchol eraill o heintio a phrofi.

10    Cynllunio ar gyfer y cam nesaf: Cynllun Ymateb i Ddiogelu Iechyd y Cyhoedd

 

Gofynnodd y Prif Swyddog Meddygol i Iechyd Cyhoeddus Cymru baratoi cynllun ar gyfer cam nesaf yr ymateb i'r achos. Cyflwynwyd hwn fel cyngor iechyd cyhoeddus arbenigol i Lywodraeth Cymru ar 4 Mai 2020. Fe'i hysgrifennwyd i gefnogi dogfen Llywodraeth Cymru Arwain Cymru allan o'r pandemig coronafeirws:  Fframwaith ar gyfer adferiad. Mae'r Cynllun yn amlinellu tri phrif weithgaredd ar gyfer camau gweithredu iechyd cyhoeddus ar y cyd ar raddfa fawr,  sef: Atal y clefyd rhag lledaenu drwy olrhain cysylltiadau a chanfod achosion; Cadw golwg ar y boblogaeth a; Samplu a Phrofi.

Atodiad: Crynodeb epidemiolegol o achosion a gadarnhawyd a marwolaethau yng Nghymru

 

Achosion wedi'u cadarnhau yn ôl grŵp oedran

 

Achosion wedi'u cadarnhau yn ôl dyddiad awdurdodi samplau               

 

 

 

 

Pyramid Oedran a Rhyw marwolaethau COVID-19 a gadarnhawyd yng Nghymru

 

 

 

 

 

Dosbarthiad marwolaethau COVID-19 wedi'u cadarnhau yng Nghymru, fesul Bwrdd Iechyd preswyl

 

 

 

Nifer y Marwolaethau a adroddwyd i Iechyd Cyhoeddus Cymru (hyd at 1700h 4 Mai 2020)



[1] https://www.who.int/docs/default-source/coronaviruse/situation-reports/20200505covid-19-sitrep-106.pdf?sfvrsn=47090f63_2

[2] https://www.gov.uk/guidance/coronavirus-covid-19-information-for-the-public

[3] https://public.tableau.com/profile le/public.health.wales.health.protection#!/vizhome/RapidCOVID-19virology-Public/Headlinesummary